Croeso!

Ni yw Cwlwm Busnes Caerdydd.

Elin Llyr and Owen John

Amdanom ni

Wedi’i sefydlu yn 1993, cymdeithas o bobl fusnes Caerdydd a’r De Ddwyrain yw Cwlwm Busnes Caerdydd, gyda’r nôd o godi proffil y Gymraeg ym myd busnes a rhoi cyfle i Gymry Cymraeg i rwydweithio a chefnogi ei gilydd.

Rydym yn trefnu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio, ac yn cynnal Cinio Blynyddol sydd bellach yn uchafbwynt yn y calendr.

Ein gobaith yw galluogi ein haelodau i elwa o fusnes newydd, hwyluso cyfleoedd ar gyfer cytundebau newydd a'u hannog i elwa ar sgiliau eraill.

Y Pwyllgor

Elin Llyr

Elin Llŷr

Cyd-Gadeirydd

Mae Elin Llŷr yn Gyfarwyddwr Cyfrif yng nghwmni Materion Cyhoeddus Deryn Consulting, wedi iddi ymuno â’r tim yn 2016. Cyn hynny, buodd yn gweithio i’r Aelodau o’r Senedd Dafydd Elis-Thomas AS a Helen Mary Jones AS yn y Cynulliad Cenedlaethol dros gyfnod o 7 mlynedd. Mae Elin yn arbenigo yn y meysydd digwyddiadau, cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae Elin yn wreiddiol o Gricieth ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers graddio o Brifysgol Caerdydd.

Owen John

Owen John

Cyd-Gadeirydd

Mae Owen John yn bartner a chyfreithiwr yng nghwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd. Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Owen yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yn cynghori cyflogwyr a chyflogeion ar bob agwedd o’r gyfraith yn y gwaith. Mae’n ymddwyn ar ran nifer o gyflogwyr a busnesau mwyaf adnabyddus Cymru. Yn 2015, sefydlodd Owen y wefan cyfreithwyr.com.

Osian Bowyer

Osian Bowyer

Ysgrifennydd & Is-Gadeirydd

Osian Bowyer

Gareth Davies

Trysorydd

Osian Bowyer

Leah Rhydderch

Aelod o’r Pwyllgor

Osian Bowyer

Geraint Hampson-Jones

Aelod o’r Pwyllgor

Ceren Roberts

Ceren Roberts

Aelod o’r Pwyllgor

Aelodaeth

Aelodaeth Unigol (£35 y flwyddyn)

  • Blaenoriaeth i gael mynychu ein holl ddigwyddiadau;
  • Gostyngiad mewn pris ar gyfer ein digwyddiadau ble mae ffi; a
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau sydd yn ecsgliwsif i aelodau yn unig.

Partneriaeth (£100 y flwyddyn)

  • Blaenoriaeth i’ch staff gael mynychu ein holl ddigwyddiadau;
  • Gostyngiad mewn pris ar gyfer eich holl staff i’n digwyddiadau ble mae ffi;
  • Gwahoddiad i’ch staff i ddigwyddiadau sydd yn ecsgliwsif i aelodau yn unig;
  • Logo eich cwmni/mudiad ar ein gwefan; a
  • Gwahoddiad i ysgrifennu blogs neu eitemau ar ein gwefan sydd yn hyrwyddo eich cwmni/mudiad – a sylw i’r eitemau hynny ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Ein Partneriaid

DerynS4CWatkins & Gunn LawNicoJCP SolicitorsMenter a BusnesDarwin GrayNrewin DolphinGeralds Law FirmHugh JamesMenter CaerdyddPughDysgu CymraegOB3 Research