Amdanom ni
Wedi’i sefydlu yn 1993, cymdeithas o bobl fusnes Caerdydd a’r De Ddwyrain yw Cwlwm Busnes Caerdydd, gyda’r nôd o godi proffil y Gymraeg ym myd busnes a rhoi cyfle i Gymry Cymraeg i rwydweithio a chefnogi ei gilydd.
Rydym yn trefnu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio, ac yn cynnal Cinio Blynyddol sydd bellach yn uchafbwynt yn y calendr.
Ein gobaith yw galluogi ein haelodau i elwa o fusnes newydd, hwyluso cyfleoedd ar gyfer cytundebau newydd a'u hannog i elwa ar sgiliau eraill.
Y Pwyllgor
Elin Llŷr
Cyd-Gadeirydd
Mae Elin Llŷr yn Gyfarwyddwr Cyfrif yng nghwmni Materion Cyhoeddus Deryn Consulting, wedi iddi ymuno â’r tim yn 2016. Cyn hynny, buodd yn gweithio i’r Aelodau o’r Senedd Dafydd Elis-Thomas AS a Helen Mary Jones AS yn y Cynulliad Cenedlaethol dros gyfnod o 7 mlynedd. Mae Elin yn arbenigo yn y meysydd digwyddiadau, cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae Elin yn wreiddiol o Gricieth ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers graddio o Brifysgol Caerdydd.
Owen John
Cyd-Gadeirydd
Mae Owen John yn bartner a chyfreithiwr yng nghwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd. Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Owen yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yn cynghori cyflogwyr a chyflogeion ar bob agwedd o’r gyfraith yn y gwaith. Mae’n ymddwyn ar ran nifer o gyflogwyr a busnesau mwyaf adnabyddus Cymru. Yn 2015, sefydlodd Owen y wefan cyfreithwyr.com.
Osian Bowyer
Ysgrifennydd & Is-Gadeirydd
Gareth Davies
Trysorydd
Leah Rhydderch
Aelod o’r Pwyllgor
Geraint Hampson-Jones
Aelod o’r Pwyllgor
Ceren Roberts
Aelod o’r Pwyllgor
Aelodaeth
Aelodaeth Unigol (£35 y flwyddyn)
- Blaenoriaeth i gael mynychu ein holl ddigwyddiadau;
- Gostyngiad mewn pris ar gyfer ein digwyddiadau ble mae ffi; a
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau sydd yn ecsgliwsif i aelodau yn unig.
Partneriaeth (£100 y flwyddyn)
- Blaenoriaeth i’ch staff gael mynychu ein holl ddigwyddiadau;
- Gostyngiad mewn pris ar gyfer eich holl staff i’n digwyddiadau ble mae ffi;
- Gwahoddiad i’ch staff i ddigwyddiadau sydd yn ecsgliwsif i aelodau yn unig;
- Logo eich cwmni/mudiad ar ein gwefan; a
- Gwahoddiad i ysgrifennu blogs neu eitemau ar ein gwefan sydd yn hyrwyddo eich cwmni/mudiad – a sylw i’r eitemau hynny ar ein cyfryngau cymdeithasol.