Rhedeg busnes yn ystod pandemig

14/12/20

Pleser oedd cael cwmni tri o fusnesau bach llwyddiannus Caerdydd yn ddiweddar i glywed mwy am effeithiau’r pandemig Covid-19 a sut maent wedi gorfod addasu eu busnesau o ganlyniad i ddigwyddiadau eleni. Cawsom gwmni perchennog Shnwcs, Sara Hampson-Jones, perchennog Canna Deli - Elin Wyn Jones, a chyd-berchennog Ffwrnes a West Pizza - Ieuan Harry.

Roedd y tri yn gytûn ei bod hi wedi bod yn flwyddyn heriol mewn nifer o ffyrdd, ond ei bod hi hefyd wedi bod yn gyfle da i fusnesau bach gefnogi ei gilydd. Mae Canna Deli wedi ei leoli ym Mhontcanna, ac roedd hi’n ddifyr clywed gan Elin bod y Deli wedi bod yn brysurach nag erioed, gyda mwy o bobl rwan yn aros yn lleol ac yn osgoi mentro mewn i ganol y Ddinas. Canmol y gefnogaeth gan gwsmeriaid a busnesau eraill yn y farchnad oedd Ieuan o gwmni Ffwrnes a West Pizza - ac mae’n gobeithio yn arw y bydd y teimlad o bobl yn dod at ei gilydd yn cario ymlaen wedi’r pandemig. I gwmni Shnwcs, mae Sara wedi cael blwyddyn hynod o brysur o ganlyniad i’r cynnydd mewn pobl yn dewis siopa ar lein. 

Siaradodd y tri am bwysigrwydd rôl y cyfryngau cymdeithasol, ac mi ddywedodd Elin ei bod wedi cyflogi rhywun yn benodol i redeg cyfrif Canna Deli gan bod angen yr amser a’r gwaith i sicrhau bod y cynnwys o’r safon uchaf ac yn gyson. Cytunodd Sara a Ieuan bod rôl y cyfryngau cymdeithasol yn bwysicach nag erioed, ac fe aeth Sara ymlaen i egluro sut mae hi wedi newid ei chynnwys er mwyn gallu targedu cynulleidfa ehangach. 

Er ei bod hi wedi bod yn flwyddyn galed i fusnesau, roedd pawb yn gytun bod y gefnogaeth sydd wedi bod ar gael gan y Llywodraeth wedi bod yn help mawr. Er bod ansicrwydd o’n blaenau eto yn ystod y flwyddyn newydd, roedd pawb yn gadarnhaol iawn am y dyfodol - ac yn gobeithio y bydd rhai elfennau o’r newid yn ymddygiad pobl yn parhau yn 2021. Mae Canna Deli, er enghraifft, wedi buddsoddi mewn ardal braf tu allan i’r Deli, gan gynnwys gwresogyddion - ac mae Elin yn gobeitho y bydd arferion pobl o gwrdd tu allan yn yr awyr agored yn parhau yn 2021. 

Braf iawn oedd cael clywed am brofiadau y busnesau yma, ac mae dyletswydd arnom ni fel cymuned fusnes i gefnogi busnesau bach - yn enwedig yn yr amseroedd heriol sydd ohoni. 

Diolch i Sara, Elin a Ieuan am eu hamser ac am rannu eu profiadau - gan ddymuno pob lwc i chi yn 2021!

I’r rhai ohonoch sydd wedi gadael siopa Nadolig braidd yn hwyr, cymerwch gip ar wefannau y 3 busnes am anrhegion hyfryd!

Ffwrnes /West Pizza

Canna Deli

Shnwcs