Penodi Cyd-Gadeiryddion newydd Cwlwm Busnes Caerdydd
19/08/19
Elin Llŷr ac Owen John sydd wedi eu penodi yn gyd-gadeiryddion newydd Cwlwm Busnes Caerdydd. Bydd y ddau yn olynu’r Cadeirydd presennol Osian Bowyer ym Medi 2019.
Cymdeithas o bobl fusnes Caerdydd a’r De Ddwyrain yw Cwlwm Busnes Caerdydd, gyda’r nôd o godi proffil y Gymraeg ym myd busnes a rhoi cyfle i Gymry Cymraeg i rwydweithio a chefnogi eu gilydd. Maent yn trefnu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio, ac yn cynnal Cinio Blynyddol sydd bellach yn uchafbwynt yn y calendr.
Mae Elin Llŷr yn Gyfarwyddwr Cyfrif yng nghwmni Materion Cyhoeddus Deryn Consulting, wedi iddi ymuno â’r tim yn 2016. Cyn hynny, buodd yn gweithio i’r Aelodau o'r Senedd Dafydd Elis-Thomas AS a Helen Mary Jones AS yn y Senedd dros gyfnod o 7 mlynedd. Mae Elin yn arbenigo yn y meysydd digwyddiadau, cyfathrebu ac ymgysylltu.
Mae Owen John yn bartner a chyfreithiwr yng nghwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd. Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Owen yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yn cynghori cyflogwyr a chyflogeion ar bob agwedd o’r gyfraith yn y gwaith. Mae’n ymddwyn ar ran nifer o gyflogwyr a busnesau mwyaf adnabyddus Cymru.
Meddai Elin Llŷr,
“Ers ymuno â’r pwyllgor gweithgar ym mis Mawrth 2018, mae proffil ac aelodaeth y Cwlwm wedi mynd o nerth i nerth, ac mae ein presenoldeb ar sianelau cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu yn sylweddol. Yn ddi os, mae gan Cwlwm Busnes lawer i’w gynnig i’r gymdeithas fusnes yng Nghaerdydd - ac rydym yn gobeithio ein bod yn cynnig cyfleoedd i aelodau rwydweithio a rhannu eu sgiliau ac arbenigedd mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar."
Ychwanegodd Owen John,
“Mae gennym gynlluniau cyffroes ar y gweill ar gyfer 2019-20 - rydym yn bwriadu lansio gwefan newydd o fewn y misoedd nesaf a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ddigwyddiadau rhwydweithio yr Hydref a’r Nadolig yn fuan. Gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn gwerthfawrogi a chroesawu’r gallu i siarad Cymraeg yn y gweithle, mae’n bwysicach nag erioed i gynnig cefnogaeth a'r cyfle i rwydweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.”