Lansio Gwefan Newydd
21/10/20
Mae Cwlwm Busnes Caerdydd wedi lansio gwefan newydd sbon. Mae'r wefan yn rhoi edrychiad newydd a chyfoes i'r Cwlwm sy’n hawdd ei llywio ac yn llawn o'r wybodaeth a newyddion diweddaraf.
Pwrpas y wefan newydd yw cynnig safle canolog i aelodau ac eraill i ddysgu mwy am waith Cwlwm Busnes Caerdydd, yn ogystal â'r buddion i fod yn aelod neu bartner.
Bydd holl ddigwyddiadau dyfodol y Cwlwm yn cael eu hysbysebu ar y wefan, felly cadwch lygaid am ein digwyddiadau nesaf!
Dywedodd Elin Llyr, Cyd-Gadeirydd Cwlwm Busnes Caerdydd:
“Rydyn ni’n hynod falch o fod yn lansio’r wefan ar ei newydd wedd. Mae hi'n lliwgar a chyfoes - ac rydym yn gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol ar gyfer aelodau presennol a newydd.”
Ychwanegodd Owen John, Cyd-Gadeirydd Cwlwm Busnes Caerdydd:
“Rwy'n gyffrous iawn am y wefan newydd, ac yn gobeithio y byddwn yn dennu aelodau newydd i ymuno â ni. Byddwn yn defnyddio'r wefan i hysbysebu ein holl ddigwyddiadau, ac yn cynnig cyfle i aelodau a phartneriaid gyfrannu i'n blog misol.”