Gweminar gyda Marian Evans, Elevate BC

4/06/20

Ar brynhawn Iau 4ydd o Fehefin,  cynhaliom weminar arbennig ar y cyd gyda Marian Evans - Sylfaenydd Elevate BC. I’r rhai a fynychodd ein Cinio Blynyddol y llynedd, cawsom y pleser o wrando ar Marian yn sôn am ei gyrfa eang fel entrepeneur a buddsoddwraig frwd. Yn fwy ddiweddar, fe gipiodd Marian y wobr “Inspirational Woman of the Decade” yng Ngwobrau Menywod mewn Busnes Cymru 2019. 
 
Wrth i ni weithio a byw yn ystod y cyfnod ansicr sydd ohoni, cynigiodd Marian gyngor hynod ddefnyddiol ar sut i feithrin ein cadernid personol (“resilience”) a chadw yn bositif a rhagweithiol tra’n gweithio o adref.