Croesawu Aelod Pwyllgor Newydd

25/01/21

Pleser mawr yw croesawu Ceren Roberts i Bwyllgor Cwlwm Busnes Caerdydd. Ymunodd Ceren â'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr, a bydd y tîm yn elwa yn ddi-os o'i phrofiad helaeth yn y maes o ddigwyddiadau a chyfathrebu.

Mae Ceren Roberts yn Bennaeth Gwersyll yr Urdd Caerdydd, wedi iddi ymuno ag Urdd Gobaith Cymru yn 2018. Cyn hynny, buodd yn gweithio fel Rheolwr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Buodd yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am dros gyfnod o 12 mlynedd. Yn 2017 fe sefydlodd Ceren gwmni bar symudol Cavavan ar y cyd gyda’i ffrind. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli Menter Caerdydd ers 2012 sydd â throsolwg dros holl weithgareddau’r Fenter, gan gynnwys yr ŵyl flynyddol Tafwyl. Mae Ceren yn wreiddiol o Bontypridd ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers graddio o Brifysgol Caerdydd.
 

Dywedodd Ceren Roberts:

“Mae hi’n fraint fod yn rhan o bwyllgor Cwlwm Busnes Caerdydd. Rwyf wedi ymwneud a gweithgareddau'r Cwlwm ers blynyddoedd, ac wedi cael llawer o fudd allan o’r cyfleodd. Mae’r Cwlwm yn adnodd arbennig ac unigryw sydd gennym yng Nghaerdydd. Mae’n bleser ymuno gyda’r tîm brwdfrydig er mwyn cynnig gweithgareddau a darpariaethau cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Elin Llyr, Cyd-Gadeirydd Cwlwm Busnes Caerdydd: 

"Rydym yn falch iawn o groesawu Ceren i'r tîm, a bydd ei phrofiad helaeth yn y maes o drefnu digwyddiadau o fudd enfawr i'r Cwlwm. Mae Ceren yn unigolyn brwdfrydig, ac edrychwn ymlaen at ei chyfraniad wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall."