Chwilio am Aelodau Pwyllgor Newydd

20/05/21

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â phwyllgor Cwlwm Busnes Caerdydd?
 
Wedi’i sefydlu yn 1993, mae Cwlwm Busnes Caerdydd (CBC) wedi bod yn fudiad amlwg a gweithgar dros y 28 mlynedd ddiwethaf wrth drefnu digwyddiadau amrywiol a galluogi i bobl ym myd gwaith a busnes y Brifddinas i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
 Wrth i ni wynebu bywyd ar ôl y pandemig, mae gan y mudiad ddyfodol cyffrous ac mae’r pwyllgor presennol yn chwilio am unigolion newydd a brwdfrydig i ymuno â nhw. Mae cyfarfodydd pwyllgor (tua awr o hyd) yn cael eu cynnal tua 6 gwaith y flwyddyn.
 
Os hoffech wneud cais i fod yn rhan o bwyllgor CBC, danfonwch ebost at cwlwmbusnescaerdydd@gmail.com gyda’ch manylion personol, manylion cyswllt ac ychydig frawddegau am pam yr hoffech fod yn rhan o’r pwyllgor.
 
Os am fwy o wybodaeth, croeso i chi hefyd gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.