Brecwast Cwlwm Busnes - Caffi Big Moose

6/02/20

Yn gynnar ar fore 6 Chwefror 2020, casglodd o gwmpas 50 o fynychwyr yng nghaffi unigryw Big Moose yng nghanol Caerdydd ar gyfer brecwast blynyddol Cwlwm Busnes.
 
Gyda’r digwyddiad wedi gwerthu allan wythnosau ynghynt, Andrew Tamplin o gwmni Canna Consulting oedd y siaradwr gwadd. Mae Andrew yn siaradwr hynod ddifyr ac mae ganddo stori ysbrydoledig o frwydro yn erbyn afiechyd meddwl yn dilyn chwalfa feddyliol ar ôl gyrfa lwyddiannus yn gweithio i un o fanciau mwya’r byd. Ar y bore, llwyddodd Andrew i siarad am iechyd meddwl mewn modd sensitif ond ysgafn a cafwyd digon o gyfle i godi cwestiynau a thrafod ymhellach ymysg y gynuilleidfa.

Cyn ac ar ôl i Andrew siarad, cafwyd digonedd o gyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros frecwast a choffi. Mae Big Moose yn leoliad difyr, gyda holl elw y caffi yn mynd at gefnogi pobl digartref ac achosion da eraill.